Mae GHP Legal yn bartneriaeth gyfreithiol flaenllaw yng Ngogledd Cymru, sydd yn delio â phob math o gleient, boed yn fusnes, elusen neu’n unigolyn.
Yn ein swyddfeydd, ceir timau profiadol sy’n arbenigo mewn gwahanol feysydd o’r gyfraith, fel y gallwn gynnig gwasanaeth cyflawn i’n cleientiaid. Gall ein cyfreithwyr ymdrin â materion busnes megis cyfraith cwmnïau, cyfraith masnach, eiddo masnachol, cyfraith cyflogaeth a datrys anghydfod. Hefyd, rydym yn darparu gwasanaethau arbenigol ar gynllunio, yr amgylchedd, anghydfod adeiladu, a methdaliad. Mae gennym hefyd dimau cryf all drafod ewyllysiau, ymddiriedolaethau, trethiannau a gwarchod asedau, eiddo personol, cyfraith teulu a throseddu o bob math.
‘Rydym yn falch o’n gwaith yn cefnogi busnesau a chwsmeriaid preifat ar hyd a lled Gogledd Cymru ers 1970. Cyflogwn nifer o siaradwyr Cymraeg hollol rugl er mwyn gallu darparu cyngor cyfreithiol yn effeithiol.
Am ragor o wybodaeth am y gwasanaethau a ddarparwn yn y Gymraeg, cysylltwch ag Richard Lloyd (Partner) ar 01691 659194 neu e-bostiwch richard.lloyd@ghplegal.com